15.12.20- Drafft o gynnig i fynd gerbron Cabinet Cyngor Sir Gwynedd

(i’w drafod yn gyntaf ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor)

 GWAITH YMCHWIL TAI GWYLIAU  -  Y PENDERFYNIAD A GEISIR

Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai sydd yn cael eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy hynny i roi buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwyir y gwaith ymchwil (a baratowyd gan swyddogion y Cyngor) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid:-

a) Galw  ar  y  Llywodraeth  ar  fyrder  i  efelychu'r  hyn  sydd  yn  digwydd  yn  yr Alban  a  diwygio’r  Gorchymyn  Cynllunio  Gwlad  a  Thref (Dosbarthiadau Defnydd)  er  mwyn  cynnwys  dosbarth  defnydd  ychwanegol  ar  gyfer  llety gwyliau  tymor  byr.  Byddai  hynny  yn  ei  dro  yn  caniatáu  i  awdurdodau adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer newid defnydd tŷ preswyl i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn yr ‘ardal rheoli’ penodedig.

b) Er  mwyn  cynorthwyo  i  gadw  rheolaeth  dylid  hefyd  galw  am  gyflwyno cynllun  trwyddedu  gorfodol  ar  gyfer  llety  gwyliau  tymor  byr  fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol ei weithredu.

c) Tra byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael gwell rheolaeth ar dai sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai modd osgoi/rheoli tai yn cael eu troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd yn cael eu gosod yn achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y modd ariannol i helpu i wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai hynny yn ei greu, ein bod yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i weithredu ar fyrder i newid y Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ annedd sydd ddim yn brif neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd  er  pwrpas  trethu  (a  thrwy  hynny  yn  talu  unrhyw  bremiwm  Treth Cyngor a benderfynir arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety gwyliau tymor byr sydd  wedi  derbyn  hawl  cynllunio  pwrpasol  ar  gyfer  y  defnydd  hynny  yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer talu Treth Busnes Annomestig.